Pwy ydym ni
Mae’r bartneriaeth NWTA (a gyflwynwyd ym mis Awst 2025) yn gydweithrediad rhwng:
Prifysgol Bangor
Prifysgol Wrecsam
Coleg Cambria
Grŵp Llandrillo Menai
Nod y bartneriaeth yw unioni addysg bellach ac addysg uwch â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gefnogi dysgwyr a chyflogwyr drwy lwybrau llwyddiant, mentrau ar y cyd, ac arloesedd.
Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn ymwneud â’r Prosiect Llwybrau Llwyddiant, sy’n cael ei ariannu gan Medr drwy’r Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16 2025/26.
At ddibenion cyfraith diogelu data, mae’r sefydliadau uchod yn gweithredu fel cyd-reolwyr o’ch data personol.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu
Efallai y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r mathau canlynol o ddata personol:
Data hunaniaeth (e.e enw)
Manylion cyswllt (e.e cyfeiriad e-bost, rhif ffôn)
Gwybodaeth addysgol (e.e sefydliad presennol, diddordebau cwrs)
Data cyfranogiad digwyddiad (e.e cofrestrau, cofnodion presenoldeb)
Data adborth (e.e arolygon, gwerthusiadau, ymatebion)
Data technegol (e.e defnydd gwefan, cyfeiriad IP drwy cwcis lle bo’n berthnasol)
Delweddau a chyfryngau (e.e ffotograffau neu fideos a dynnwyd mewn digwyddiadau, lle mae caniatâd wedi’i roi)
Nid ydym yn casglu data categori’n fwriadol oni bai bod gofyniad penodol am hyn, gydag amddiffyniadau priodol.
Sut rydym ni’n casglu eich data
Rydym yn casglu data personol drwy:
Cofrestriadau digwyddiadau (e.e digwyddiadau Arwyr/Heroes, arddangosfa ranbarthol)
Ffurflenni gwefan (gan gynnwys y wefan NWTA)
Arolygon adborth a ffurflenni gwerthuso
Ymgysylltiad uniongyrchol mewn digwyddiadau
Sefydliadau partner a chyflogwyr sy’n cymryd rhan (lle bo’n briodol)
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio eich data i:
Ddarparu a rheoli gweithgareddau a digwyddiadau prosiect
Cyfathrebu â chyfranogwyr am ddigwyddiadau a chyfleoedd
Cefnogi llwybrau llwyddiant i addysg a chyflogaeth
Gwerthuso a gwella canlyniadau prosiect
Bodloni gofynion adrodd i arianwyr (e.e Medr)
Hyrwyddo gweithgareddau (lle rhoddwyd caniatâd i’w defnyddio ar y cyfryngau)
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Rydym yn prosesu data personol dan y seiliau cyfreithiol canlynol:
Tasg gyhoeddus – darparu mentrau addysgol a datblygu sgiliau
Caniatâd - ar gyfer gweithgareddau penodol fel cyfathrebiadau marchnata neu ddefnydd o ddelweddau
Buddion cyfreithlon - i werthuso a gwella’r prosiect a sicrhau darpariaeth effeithiol
Ymrwymiad cyfreithiol - lle bod angen ar gyfer cyllid neu gydymffurfiaeth reoleiddiol
Rhannu eich gwybodaeth
Efallai y byddwn yn rhannu eich data â:
Sefydliadau partner NWTA (a restrir uchod)
Cyrff cyllid fel Medr
Cyflogwyr cyfranogol sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau (lle bo’n briodol)
Darparwyr gwasanaeth (e.e platfformau rheoli digwyddiadau, darparwyr cynnal gwefan)
Cynhelir yr holl ddata yn unol â chyfraith diogelu data a threfniadau priodol.
Trosglwyddiadau Rhyngwladol
Caiff eich data personol ei brosesu’n bennaf o fewn y DU. Os caiff data ei drosglwyddo y tu allan i’r DU, defnyddir amddiffyniadau priodol yn unol â GDPR y DU.
Cadw data
Byddwn yn cadw data personol cyn hired ag y bydd angen i wneud y canlynol yn unig:
Darparu’r prosiect
Bodloni gofynion adrodd ac archwilio
Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol
Yn nodweddiadol, bydd cyfnodau cadw data’n cyd-fynd â gofynion cyllidwyr a pholisïau sefydliadol.
Eich hawliau
Dan gyfraith diogelu data'r DU, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
Cael mynediad at eich data personol
Gofyn am gywiriad i ddata sy’n anghywir
Gofyn am ddileu data (mewn amgylchiadau penodol)
Cyfyngu neu wrthod i ddata gael ei brosesu
Tynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (lle bo’n berthnasol)
Gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu sut y defnyddir eich data, cysylltwch â:
NWTA Partnership (Prosiect Llwybrau at Lwyddiant)
civic.mission@wrexham.ac.uk
Prifysgol Wrecsam, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW
Diweddariadau i’r rhybudd hwn
Gall y rhybudd preifatrwydd hwn gael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Bydd y fersiwn ddiweddaraf bob amser ar gael drwy wefan y prosiect.